News

A year in review: Making the Link

Crynodeb Prosiect: Gwneud y Cysylltiad: Cofnodion Colledion Lloyd a Chofnod Henebion Cenedlaethol Cymru

Monday, November 09 2020

A year in review: Making the Link

Dr Meilyr Powel has also produced a translation below for Welsh readers.

This six-month project has managed to enhance the Royal Commission’s shipwreck records through the use of Lloyd’s Casualty Returns for the years 1890–2000, which have been digitised by Lloyd’s Register Foundation Heritage and Education Centre and made available on Internet Archive. In creating hyperlinks from each individual shipwreck record to their original entry in the Casualty Returns, the new Coflein pages for Welsh shipwrecks now allows users to access key primary sources. Users will not only become more aware of how much of our information on shipwrecks derive from these important documentary sources, but will also realise the value of and the resources held by two key heritage institutions, The Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales, and Lloyd’s Register Foundation Heritage and Education Centre.

The Royal Commission’s new inventory and data management platform, Arches, allows for the creation of hyperlinks, and as part of a larger digital delivery project this maritime project capitalises on the platform’s capabilities. Not only do the Commission’s shipwreck records include direct links to the Casualty Returns, but many also include hyperlinks to contemporary newspaper articles via the National Library of Wales’ Welsh Newspapers Online resource. These newspaper articles provide more information as to the circumstances of shipwrecks in addition to detailing crew lists and number of fatalities. Additional sources of information such as Board of Trade Inquiry papers, the UK Hydrographic Office, Mercantile Navy Lists, People’s Collection Wales, Wreck Site EU, and the Royal Commission’s previous U-Boat Project: Commemorating the War at Sea, among others, have also been linked to the shipwreck records.

Over 500 shipwreck records of the Royal Commission have been linked to their entries in the Casualty Returns. Nearly 50 ‘new’ records have also been created, where the Royal Commission had not previously recorded them in its archive, the National Monuments Record of Wales. Several public engagement activities ran during the course of the project too; these included weekly tweet threads exploring the stories behind some of the shipwrecks and revealing the array of information held in the Casualty Returns; several blogs that were also shared by Lloyd’s Register Foundation’s Heritage and Education Centre; a series of webinars, one of which was also hosted by Lloyd’s; an article in the Cambrian News newspaper; and an online exhibition, again published on the Lloyd’s Register Foundation’s Heritage and Education Centre website.

In sum, the enhancement of over 500 Royal Commission shipwreck records, each with hyperlinks to Lloyd’s Casualty Returns and many with additional hyperlinks to contemporary newspapers, along with a constant public engagement campaign, has ensured this project has been a success. A more connected network of resources has been established providing greater visibility to the heritage institutions and a better experience for users who are now able to move seamlessly from shipwreck records pages to original sources and other external resources.

Mae’r prosiect chwe mis hwn wedi llwyddo cyfoethogi cofnodion llongddrylliadau’r Comisiwn Brenhinol drwy ddefnyddio Cofnodion Colledion Lloyd am y blynyddoedd 1890–2000, sydd eisoes wedi eu digido gan Ganolfan Addysg a Threftadaeth Sefydliad Cofrestr Lloyd a’u gwneud ar gael ar Internet Archive. Drwy greu hypergysylltiadau o gofnodion llongddrylliad y Comisiwn i’w hymddangosiad yn y Cofnodion Colledion, mae tudalennau newydd Coflein yn caniatáu i ddefnyddwyr gael mynediad rhwydd i ffynonellau gwreiddiol pwysig. Bydd defnyddwyr ddim yn unig yn dod yn fwy ymwybodol o sut mae’n wybodaeth o longddrylliadau yn deillio o ffynonellau dogfennol, ond byddent hefyd yn sylwi ar werth a chyfoeth yr adnoddau sydd gan ddau sefydliad treftadaeth, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Chanolfan Addysg a Threftadaeth Sefydliad Cofrestr Lloyd.

Mae llwyfan newydd rhestr eiddo a rheoli data’r Comisiwn Brenhinol, Arches, yn caniatáu i greu hypergysylltiadau, ac fel rhan o brosiect digidol ehangach y Comisiwn, mae’r prosiect arforol hwn wedi manteisio ar alluoedd y llwyfan. Nid yn unig fod cofnodion llongddrylliadau’r Comisiwn yn cynnwys cysylltiadau uniongyrchol i’r Cofnodion Colledion, ond mae nifer hefyd yn cynnwys hypergysylltiadau i adroddiadau papurau newydd cyfoes drwy adnodd Papurau Newydd Cymru Arlein Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r erthyglau papurau newydd hyn yn gallu cynnig mwy o wybodaeth ynghylch amgylchiadau llongddrylliadau yn ogystal â nodi rhestrau criw a nifer o farwolaethau. Cysylltir hefyd gyda ffynonellau ac adnoddau eraill megis papurau Ymchwiliad Bwrdd Masnach, Swyddfa Hydrograffeg y DG, Rhestrau Llynges Fasnachol, Casgliad Werin Cymru, Wreck Site EU, a phrosiect blaenorol y Comisiwn Brenhinol ar Llongau-U: Yn Coffáu’r Rhyfel ar y Môr, ymysg eraill.

Llwyddwyd cysylltu dros 500 o gofnodion llongddrylliadau’r Comisiwn Brenhinol gyda’u hymddangosiad gwreiddiol yn y Cofnodion Colledion. Crëwyd hefyd bron 50 record ‘newydd’, lle nad oedd y Comisiwn wedi cofnodi’r llongddrylliadau hyd yma yn ei archif, Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. Bu sawl gweithgaredd cyhoeddus yn rhedeg yn ystod y prosiect hefyd; roedd y rhain yn cynnwys edeifion trydar wythnosol yn bwrw golwg ar straeon rhai o’r llongddrylliadau a dangos y math y wybodaeth sydd i’w darganfod yn y Cofnodion Colledion; sawl blog a gafodd hefyd eu rhannu gan Ganolfan Addysg a Threftadaeth Sefydliad Cofrestr Lloyd; cyfres o weminarau, gydag un yn cael ei gynnal gan Lloyd; erthygl ym mhapur newydd y Cambrian News; ac arddangosfa ar-lein, eto yn cael ei gynnal ar wefan Canolfan Addysg a Threftadaeth Sefydliad Cofrestr Lloyd.

I grynhoi, mae cyfoethogi dros 500 o gofnodion llongddrylliadau’r Comisiwn Brenhinol, pob un â hypergysylltiad i Gofnodion Colledion Lloyd a llawer gyda hypergysylltiadau ychwanegol i bapurau newydd cyfoes, ynghyd ag ymgyrch ymgysylltu â’r cyhoedd, wedi sicrhau fod y prosiect wedi bod yn llwyddiannus. Mae rhwydwaith mwy cysylltiedig o ffynonellau ac adnoddau wedi cael ei greu sydd yn cynnig mwy o welededd i’r sefydliadau treftadaeth a phrofiad gwell i ddefnyddwyr sydd bellach yn gallu symud yn esmwyth o dudalennau cofnodion llongddrylliadau i ffynonellau gwreiddiol ac adnoddau allanol eraill.

Education